We use cookies to help provide you with the best possible online experience.
By using this site, you agree that we may store and access cookies on your device. Cookie policy.
Cookie settings.
Functional Cookies
Functional Cookies are enabled by default at all times so that we can save your preferences for cookie settings and ensure site works and delivers best experience.
3rd Party Cookies
This website uses Google Analytics to collect anonymous information such as the number of visitors to the site, and the most popular pages.
Keeping this cookie enabled helps us to improve our website.
Taflen Practis Cymraeg
Dr C Wallace a Phartneriaid
Meddygfa Pendre
Stryd Coleshill
reffynnon
CH8 7UP
- Dr C Wallace (01352)746131
- Dr J Potter (01352)746131
- Dr R Penson (01352)746131
- Dr G Murphy (01352)746131
- Rhif ffacs: 01352 712751
- Gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau: 111
Ynglŷn â'r Feddygfa
Yn ystod 1984-86 ac unwaith eto ym 1997-98, cafodd y feddygfa ei hymestyn a'i hadnewyddu ac mae'n cynnig offer a dodrefn o'r radd flaenaf.
Cafodd ei chynllunio i fod yn gyfleus ar gyfer POBL ANABL. Mae gennym ramp a chanllaw wrth y drws blaen, mae'r drysau'n ddigon llydan ar gyfer cadeiriau olwyn ac mae gennym doiled sy'n hwylus ar gyfer cadeiriau olwyn hefyd.
Mae gennym ddwy ddolen sain, un ddolen gludadwy ac un wrth y fferyllfa.
Y Meddygon
Dr Christopher Wallace | MB ChB MRCGP | Rhif Ffôn: 746131 |
Ganwyd 1964 | Manceinion 1988 | |
Dr Jon Potter | MB ChB MRCGP | Rhif Ffôn 746131 |
Ganwyd 1974 | Dundee 1997 | |
Dr Rose Penson | MBBCh MRCGP DRCOG | Rhif Ffôn 746131 |
Ganwyd 1983 | Caerdydd 2007 | |
Dr Gerald Murphy | MB ChB | Rhif FFon: 746131 |
Ganwyd 1964 | Manceinion 1988 |
Meddygon Ysbyty ar Ymlyniad (Cofrestryddion Meddygon Teulu)
Mae gennym feddyg ysbyty ar ymlyniad sy'n cael ychydig o brofiad gyda ni ar ôl penderfynu dilyn meddygaeth gyffredinol fel gyrfa. Bydd ar ymlyniad gyda ni am chwe mis ar y tro.
Tîm y Practis
- Mrs Carole Duke-Williams - Rheolwr Practis
- Mrs Linda Marshall - Cynorthwyydd Rheolwr y Practis
- Mrs Cathie Easton - TG/Ysgrifennydd Dip AMSPAR
- Miss Tracy Williams - Ysgrifennydd Dip AMSPAR
- Miss Janet Roberts - Ysgrifennydd
- Miss Grace Owen - Ysgrifennydd
- Miss Nicola Lecouilliard - Ysgrifennydd
- Mrs Donna Murt - Ysgriffennydd
- Ms Janice Foulkes - Ysgrifennydd
- Mrs Andrea Poppleton - Ysgrifennydd
- Mr Andrew Noon - Gweinyddwr Swyddfa
- Miss Amanda Davies - Derbynydd
- Mrs Christina Parry - Rheoli Meddyginiaethau, BTech Gwyddor Fferylliaeth, Technegydd Fferyllfa Cofrestredig Technegydd Fferyllfa
- Miss Danielle Palmer - Rheolwr y Fferyllfa, BSc Gwyddor Iechyd, Technegydd Fferyllfa Cofrestredig Technegydd Fferyllfa
- Mrs Elizabeth Davies - Technegydd Fferyllfa
- Mrs Julie Jones - Technegydd Fferyllfa
- Mrs Gail Bremner - Technegydd Fferyllfa
- Miss Denise Harrison - Technegydd Fferyllfa
- Miss Andrea Place - Technegydd Fferyllfa
Nyrsys Practis
- Prif Nyrs Hilary Holloway Uwch Nyrs Arweiniol - BSc DN (Anrhydedd) RGN, Dip mewn Arfer Proffesiynol, Gradd mewn Addysgu ac Asesu, Dip Diabetes, Dip Hyfywedd Meinweoedd, Dip Asthma, Nyrs Rhagnodi, Tystysgrif mewn sytoleg, Dip COPD
- Siân Rees-Morris - BSc DN (Anhrydedd) RGN, Diabetes Nyrs Rhagnodi, Tystysgrif mewn sytoleg
- Claire Davies
- Cathryn Williams
Uwch Ymarferydd Nyrsio
- Elizabeth Pugh - MSC Ymarfer Clinigol Uwch
- Tara Morris - MSC Ymarfer Clinigol Uwch
Mae'r apwyntiadau rhwng 8:30am - 11.30am a 3:00pm - 5:30pm
Cynorthwyydd Gofal Iechyd
- Mrs Diane Williams - NVQ3
- Dydd Llun, Mawrth, Mercher
- Miss Joanne Corbett - NVQ3
- Dydd Mercher, Iau, Gwener
Mae'r Cynorthwyydd Gofal Iechyd / Phlebotomydd ar gael ar gyfer apwyntiadau:
- 8:10 AM - 10:30 AM - Bob bore ar gyfer profion gwaed
- 11:00 AM - 1:00 PM - apwyntiadau dyddiol y bore
- 2:00 PM - 3:30 PM - apwyntiadau dyddiol gyda'r nos
- 2:00 PM - 5:00 PM Dydd Mercher ar gyfer apwyntiadau
Ymwelwyr Iechyd
03000 856710
- Ms Angela Boyle - RGN, RM, RHV BSc, Tystysgrif FP
- Mrs Katrina Evans - Nyrs Feithrin BTEC
Mae'r Ymwelwyr Iechyd ar gael yn Ysbyty Cymuned Treffynnon ond maent yn cynnal clinigau imiwneiddio babanod yn y feddygfa. Bydd ymwelydd iechyd sy'n fyfyriwr gyda'r tîm fel arfer.
Bydwragedd
Dydd Mercher 1.30pm - 3pm
- Ms Laura Clarke - RGN RM
Gellir cysylltu â'r bydwragedd yn Ysbyty Cymuned Treffynnon ar 03000 856714. Maent yn cynnal y clinig cyn geni yn Ysbyty Cymuned Treffynnon.
Nyrsys Cymuned
- Yvette Richards - DN RGN
- Faye Hughes - RGN, Gweithiwr Cefnogi Gofal Iechyd
- Claire Roberts
Datblygu ac Imiwneiddio Plant
Dydd Llun rhwng 2-4pm datblygiad plant. Clinig galw heibio wedi'i gynnig gan yr ymwelydd iechyd i gloriannu yn HCH. Mae apwyntiadau ar gael trwy drefniant ar fore dydd Llun.
OED | GWIRIADAU |
GAN |
8 wythnos | Archwiliad Datblygiadol Archwiliad ôl-enedigol i famau | Meddyg |
Ymhen deufis | 6 yn 1 cyntaf (Diptheria, Tetanws, Pertwsis Hep B, Polio, Hib), Rotafeirws Pneumococal, Men B | Nyrs Practis |
3 mis | 2il 6 yn 1, Rotafeirws | Nyrs Practis |
4 mis | 3ydd 6 yn 1, Niwmococol Men B | Nyrs Practis |
8-9 mis | Archwiliad Datblygiadol | Ymwelydd Iechyd |
12 mis | HIB/Men C, Dos Atgyfnerthu Men B MMR (Y Frech Goch, Clwy'r Pennau | Nyrs Practis |
Rwbela), Niwmococol | ||
27 mis 3 mlynedd + 4 mis | Archwiliad Datblygiadol Dos atgyfnerthu cyn ysgol, MMR | Ymwelydd Iechyd Nyrs Practis |
Apwyntiadau
Gallwch ffonio'r Feddygfa rhwng 8am a 6pm er mwyn trefnu apwyntiad. Mae'r holl feddygfeydd yn gweithio ar sail apwyntiadau 10 munud. Os yw'r meddygfeydd yn brysur ac nad yw'ch apwyntiad yn frys, efallai y cewch apwyntiad ar gyfer diwrnod arall. Wrth reswm, byddwn yn delio ag unrhyw broblem frys ar yr un diwrnod ond ni fydd hyn gyda'r meddyg teulu o'ch dewis, o reidrwydd.
Gall cleifion sydd rhwng 16 a 74 oed nad ydynt wedi gweld eu meddyg dros y tair blynedd diwethaf, neu gleifion dros 75 oed nad ydynt wedi gweld eu meddyg teulu dros y 12 mis diwethaf ofyn am ymgynghoriad. Os ydych dros 75 oed ac y mae'ch cyflwr meddygol yn eich atal rhag mynd i'r Feddygfa, efallai y caiff ymweliad â'r cartref ei drefnu.
Byddem yn gofyn i chi gadw apwyntiadau min nos ar gyfer y bobl hynny sy'n gweithio yn ystod y dydd.
Mân Salwch
Cynigir apwyntiadau mân salwch rhwng 9am a 11am bob dydd. Caiff apwyntiadau eu trefnu ar y diwrnod hwnnw. Yna, caiff nyrs neu feddyg eu dyrannu i chi gan ddibynnu ar eich anghenion.
Ymweliadau
Ffoniwch cyn 10am, os yw'n bosibl, er mwyn helpu'r Meddyg i drefnu ei ddiwrnod. Byddwn yn delio â galwadau a dderbynnir yn ddiweddarach fel rhai brys. Bwriedir ymweliadau â chartrefi ar gyfer cleifion sy'n wirioneddol gaeth i'r tŷ - gall y meddyg weld rhyw bedwar neu bump o bobl yn y feddygfa ar gyfer pob ymweliad â chartref.
Ymweliadau Nos ac Achosion Brys
Dydd Llun – Dydd Gwener | 8.00am – 6.30pm | Cysylltwch â'r Feddygfa |
Pob amser arall | 111 | Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau Sir y Fflint a Wrecsa |
Ar ôl 6.30pm, caiff eich galwad ei hateb gan Wasanaeth y Tu Allan i Oriau NEWDOC Sir y Fflint a Wrecsam. Mae'r gwasanaeth hwn wedi'i gomisiynu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mân Lawdriniaeth
Gellir cynnig mân lawdriniaeth trwy drefniant yn ein hystafell driniaeth bwrpasol neu yn Ysbyty Cymuned Treffynnon. Gweler eich meddyg.
Brechiadau'r Ffliw
Rydym yn cynnig brechiad at y ffliw bob mis Hydref, YN RHAD AC AM DDIM, i'r holl gleifion dros 65 oed a chleifion eraill sydd â rhai mathau o salwch cronig. Mae'r rheiny sydd â risg benodol yn cynnwys yr henoed a'r rheiny sydd â phroblemau iechyd cronig fel asthma, diabetes a chlefyd y galon.
Profion Sgrinio Serfigol
Mae modd i naill ai'r meddyg neu'r nyrs practis gynnig profion ceg y groth. Pan fyddwch yn trefnu apwyntiad, rhowch wybod i'r derbynnydd mai prawf ceg y groth ydyw fel bod modd caniatáu digon o amser. Oni chynghorir fel arall, argymhellir cael profion ceg y groth bob pum mlynedd.
Mae'r Practis ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6.30pm. Caiff y ffonau eu hateb gan y Practis rhwng 8am a 6.30pm er mwyn trefnu apwyntiadau, ymweliadau â'r cartref neu i ofyn am gyngor.
Sylwadau neu Awgrymiadau
Os byddwch am roi sylwadau ar unrhyw agwedd ar y gwasanaeth a gynigiwn, gofynnwch i'r derbynnydd am daflen. Mae'r practis yn gweithredu gweithdrefn gwynion, unwaith eto, gofynnwch i'r derbynnydd am daflen yn ymwneud â sut i barhau gyda chwyn.
Presgripsiynau Amlroddadwy
Mae'r fferyllfa ar agor o ddydd Llun i ddydd a Gwener o ddydd Llun i ddydd Gwener 8.45am-1pm - 2pm-6pm
Mae'n rhaid i gleifion sy'n gymwys i dderbyn eu meddyginiaeth yn y Feddygfa fyw mewn ardal y cytunir arni gan yr Awdurdod Iechyd, cysylltwch â'r fferyllfa er mwyn canfod p'un a ydych yn byw yn un o'r ardaloedd hyn. Mae rhestr o ardaloedd i'w gweld yn y feddygfa.
Gellir gwneud cais am feddyginiaeth amlroddadwy mewn dwy ffordd - naill ai yn fferyllfa'r Feddygfa neu mewn siop fferyllydd leol i'w chasglu - trwy gyflwyno slip wedi'i dicio'n cynnwys yr eitemau angenrheidiol a'r siop fferyllydd/meddygfa o'ch dewis, neu gais ysgrifenedig yn cynnwys yr un gwybodaeth. Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau a gawn dros y ffôn yn y siop fferyllydd na'r feddygfa ychwaith. Bydd yn cymryd 72 awr i brosesu presgripsiynau amlroddadwy.
Rydym yn fwy na pharod i dderbyn ceisiadau amlroddadwy hyd at ddeg diwrnod cyn y dyddiad disgwyliedig a byddwn yn rhoi presgripsiynau dros y terfyn amser 10 diwrnod i roi cyflenwadau ar gyfer gwyliau'n unig. Ar gyfer ceisiadau brys, e.e. rhedeg allan o dabledi, byddwn yn ceisio helpu, gan ddibynnu ar amser a'r meddyg sydd ar gael. Efallai y bydd gofyn i chi alw eto er mwyn casglu eich meddyginiaeth. Rydym hefyd yn gweithredu gwasanaeth dosbarthu; gofynnwch i'r fferyllfa os ydych yn gymwys i dderbyn y gwasanaeth hwn.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am eich meddyginiaeth, galwch heibio'r feddygfa lle bydd y staff yn fwy na pharod i'ch helpu.
Rhestrau Personol
Mae'r Practis hwn wedi gweithredu system restru bersonol bob amser. O dan y Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol newydd, caiff cleifion eu cofrestru â phractis erbyn hyn, nid meddyg teulu, ond byddant yn derbyn meddyg teulu "ffafriedig". I bob pwrpas, byddwn yn cynnal rhestrau personol a byddwn yn ceisio sicrhau bod modd i deuluoedd barhau i fod yn gofrestredig â'r un meddyg. Dylid cyfeirio unrhyw geisiadau i newid eich meddyg teulu ffafriedig at ysgrifennydd y meddyg teulu o'ch dewis.
Cleifion Newydd
I gofrestru yn y Practis, dewch â phrawf adnabod ffotograffig a bil gwasanaethau cyfredol. Yna byddwn yn gofyn i chi drefnu apwyntiad ar gyfer archwiliad iechyd cyn gynted ag y bydd yn gyfleus. Ein nod yw gweld yr holl gleifion newydd o fewn tri mis.
Tîm Iechyd Meddwl
Mae'r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol wedi'i leoli yng Nglannau Dyfrdwy a gellir cysylltu â nhw ar (01244) 836220.
Adran Achosion Brys
Mae gwasanaeth mân achosion brys ar gael yn Ysbyty Cymuned Treffynnon rhwng 8am a 8pm. Gellir cysylltu â nhw ar 03000 856739 am gyngor.
Cyfrinachedd, Cyfrifiaduron a Chanlyniadau Profion
Mae holl gofnodion cleifion sydd ar bapur neu ar gyfrifiadur yn gyfrinachol. Fel arfer, dim ond i'r cleifion eu hunain neu i rieni plant bach (os yw'n briodol) y caiff canlyniadau labordy a phelydr-X eu rhoi. Wrth holi ynghylch canlyniadau, cysylltwch â ni ar ôl 2pm pan fydd yr holl ganlyniadau wedi'u gweld a'u gweithredu gan y meddyg.
Rydym wedi’i chofrestru yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data. Ar adegau, efallai y caiff gwybodaeth sy'n ymwneud â chi ei rhannu gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gysylltiedig â'ch gofal, y mae pob un o'r rhain wedi'u hyfforddi mewn cyfrinachedd. Byddai arnom angen eich cydsyniad ysgrifenedig i ryddhau gwybodaeth i unrhyw un arall.
Cyfrifoldeb cleifion
Ein nod yw bod yr un mor gwrtais a pharod ein cymorth â phosibl o ran ein holl gleifion. Ni fyddwn yn goddef gweiddi a rhegi tuag at staff y practis mewn unrhyw amgylchiadau ac mae'n bosibl y caiff cleifion sy'n ymosodol eu dileu oddi ar restr y cleifion.
Fodd bynnag, os ystyriwch eich bod wedi'ch trin yn annheg neu'n amhriodol, cysylltwch â Rheolwr y Practis, a fydd yn fwy na pharod i fynd i'r afael â'ch pryderon.
Er mwyn i ni sicrhau bod ein cofnodion yn gyfredol, mae angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau personol, e.e. cyfeiriad.
Byddem hefyd yn ei werthfawrogi pe baech cystal â rhoi gwybod i ni os na allwch ddod i apwyntiad. Yna bydd hyn yn caniatáu cynnig yr apwyntiad i glaf arall sydd angen sylw
Ffôn
Mae'r ffonau ar agor o 8am ac mae'r llinellau'n tueddu i fod yn brysur iawn rhwng 8am a 11am. Os nad yw'ch galwad ar gyfer apwyntiad neu ymweliad, ffoniwch ar ôl 11am
Rhifau Ffôn Defnyddiol
- Ysbyty Glan Clwyd - (01745) 583910
- Ysbyty Maelor Wrecsam - 01978 291100
- Bwrdd Iechyd Lleol - (01745) 366700
- Gwasanaethau Cymdeithasol - (01352) 755404
- Tîm Iechyd Meddwl - (01352) 731293
- Galw Iechyd Cymru - 0845 46 47
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n gyfrifol am sicrhau eich bod yn cael yr holl wasanaethau sydd eu hangen arnoch. Mae modd cysylltu â nhw dros y ffôn fel uchod neu drwy ysgrifennu i -
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Preswylfa
Ffordd Hendy
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint, CH7 1PZ
Byddant yn gallu rhoi manylion a gwybodaeth i chi am wasanaethau gofal cychwynnol yn yr ardal
Oriau'r Feddygfa
9 am – 11 am | Yr holl feddygon ar gael fel arfer |
Dr C J Wallace | Llun, Iau 2.30-4.30pm, |
Dr J Potter | Llun, Mawrth 3-5.30pm, Mercher 2.30-4.30pm, |
Dr G Murphy | Llun, Mawth, Iau 3-5.30pm |
Dr R Penson | Llun, Iau 9.50-12.30 am, Mawrth, Mercher, Gwener 8.30-11.00am Mawrth 3-5.30pm, Mercher 2.30-4.30pm |
Deddf Rhyddid Gwybodaeth
O 1 Ionawr 2005, gallwch ofyn i unrhyw awdurdod cyhoeddus am y wybodaeth a gadwant. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwch yn cael ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith. Bydd awdurdodau cyhoeddus yn rhoi'r wybodaeth i chi oni bai bod rheswm da dros beidio â gwneud hynny.
Ffurflen Gais Gwrthrych am Wybodaeth
Gallwch ofyn am gael gweld eich Cofnodion Meddygol trwy ysgrifennu at eich meddyg teulu, yna byddwn yn trefnu apwyntiad i chi, neu gallwch ofyn am allbrint cyfrifiadurol. At ddibenion cyfreithiol ac yswiriant, gall eich cynrychiolydd wneud cais gyda'ch cydsyniad ysgrifenedig chi.